Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

congl y gegin, gael golwg arno: ond cai weled rhan o'r gogoniant, gan y crogid ei het silc ar hoel yn y lobi gyferbyn a drws y gegin, a mawr oedd y diddor—deb gymerai'r parrot ynddi. Ar ol syllu arni am ysbaid yn y ffordd arferol, byddai yn hongian gerfydd ei grafangau yn y cage, ac edrychai arni eto'n fanylach a'i ben i lawr. Yr oedd hwn yn ddull cyffredin ganddo o amrywio'r golygfeydd. Ar ol blino ar unffurfiaeth yr olwg ar Shôn, Beti, a'r gath yn sefyll ar lawr y gegin, byddai yn fynych yn newid yr olygfa yn y dull hwn, a chai'r hyfrydwch amheus o edrych ar lawr y gegin yn gorffwys ar wadnau Shôn, Beti, a'r gath. Gyda'r un manylder ac amrywiaeth ystum y craffai ar het silc y pregethwr.

Er y teimlai'r parrot ddiddordeb yn y paratoadau, byddai rywfodd yn chwerwi yn ei ysbryd ar ol i'r pregethwr gyrraedd, oherwydd y parlwr fyddai popeth wedyn. Gadewid y gegin ac yntau i gymeryd eu siawns, a chyfyngid pob hwyl a rhialtwch i'r parlwr. Teimlai yn eiddigeddus neilltuol at y gath. Byddai hi yn rhydd i fynd a dod i'r parlwr fel y byddai'r ysbryd a'r arogl yn arwain, ond cedwid ef yn garcharor yn ei unfan, a gadewid iddo ddi—ddanu ei hun goreu medrai yn gwrando ar lais dwfn y pregethwr, yn edrych ag un llygad ar yr het silc, neu yn gwylio ystumiau cellweirus ambell gwmwl o fwg baco ddelai ar gyfeiliorn o'r parlwr i'r gegin.

Nid ymollyngai'r parrot i siarad ar unwaith ar ol i'r pregethwr gyrraedd, ond yn raddol douai i