deimlo yn fwy rhydd, yn arbennig os digwyddai gael cefn Shôn a Beti, ac nid anfynych y cai hynny. Byddai Beti allan yn negeseua, ac ai Shôn i'r capel i drefnu ar gyfer trannoeth, a gwnai'r parrot y defnydd goreu o'r cyfle. Dyna'r adeg y dialai arnynt am ei gau allan o freintiau'r parlwr, trwy adrodd rhai o gyfrinion yr aelwyd ar goedd mewn llais clir a pharabliad croew. Dechreuai trwy annerch y gath, gan ragrithio mai ei diddori hi fyddai ganddo mewn golwg, ond cadwai ei olwg ar yr het silc, a gofalai am i'w acenion gyrraedd y parlwr. Yn absenoldeb Shôn a Beti, cai'r pregethwr hanes yr achos yn y lle yn fwy cywir a gonest, a hynny mewn hanner dwsin o frawddegau, nag y ceir ef mewn Cyfarfod Misol, er treulio llawer o amser. Brawddegau byrion, neu eiriau unigol, ac weithiau bwyslais arwyddocaol fyddai ganddo, ond medrai'r pregethwr ddeall a deongli'r cwbl yn rhwydd ddigon. Rhywbeth i'r perwyl yma glywai'r gŵr dieithr tra yn mwynhau ei fygyn yn y parlwr:—"Ewch i falu cerryg, Shôn, rhag c'wilydd." . . . "Y gŵr yw pen y wraig, Beti."
"Rhyw gasgliad o hyd." "Y blaenoriaid yna (yn cael ei ddilyn gan ebwch llawn o wawd a diystyrwch). "Codwch o'ch gwely, y diogyn." Druan o Shôn! Ychydig feddyliai, tra'n mwmian canu, "Cudd fy meiau rhag y werin," wrth dynnu'r llwch oddiar lyfrau'r pulpud, fod yr ymadroddwr pennaf yn y ty yr un munud wrthi hi a'i holl egni yn datguddio ei feiau i'r offeiriadaeth. Ond nid oedd dadlen-