Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iadau'r parrot yn gwneud hoffter y pregethwr o Shôn fymryn yn llai—yn hytrach fel arall. Edrychai pob un o honynt ymlaen at gael treulio Sul dan y nenbren. Rhwng sirioldeb Shôn, medrusrwydd Beti, a gonestrwydd y parrot, yr oedd Ty'r Capel yn ffynhonell llawer o gysur a difyrrwch diniwed i bawb ddelai yno.

Ond daeth yr awr i chwalu'r nyth hwn, fel y chwelir pob nyth yn ei dro. Bu Beti farw—a gwnaeth braidd yn anheg a Shôn yn ei hymadawiad. I wneyd y staff yn gyflawn yr etholodd Shôn hi; ond wrth ei adael, gadawodd fwy bwlch ar ei hol na'r bwlch y galwyd hi i'w lanw. Pa fwlch bynnag wnaeth ei hymadawiad yn y staff, gwnaeth fwlch mwy ym mynwes Shôn, ac ni fynnai ei ddiddanu. Byr fu ei chystudd, ond digon hir i weled Shôn mewn goleuni newydd. 'Roedd Beti wedi arfer ei bwyso yng nghlorian y twr cerryg, ac wedi ei gael bob amser yn brin. Ond daeth clefyd i'r ty—a'i glorian gydag ef: y clorian hwnnw sydd yn pwyso yr iach a'r afiach, ac nid prin mo Shôn pan roed ef yn y clorian. hwn. Er na lwyddodd holl eiriau dreng Beti i beri iddo eistedd gyda dyfalwch wrth ochr y ffordd fawr i falu cerryg, fe'i hoelwyd wrth erchwyn ei gwely gan ei gwaeledd a'i bloesgni, a glynnodd yno ddydd a nos i weini arni tra llithrai i lawr goriwaered ffordd yr holl ddaear.

Cafodd gweddillion Beti eu hebrwng yn barchus gan dorf luosog. Daeth llawer o bregethwyr i'r angladd i ddangos eu parch i'w choffadwriaeth ac i