Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sibrwd ychydig eiriau o gysur a diddanwch wrth Shôn. Dychwelai Shôn o'r fynwent yn fawr ei alar a'i dristwch, ond yn lled sicr yn ei feddwl ei hun fod Beti yn well ei lle. Ond pan o fewn ychydig lathenni i'r ty daeth rhyw ysbryd direidus heibio, a dangosodd yn ddistaw i Shôn fod yna fymryn bach o destyn llawenydd dan blygion y brofedigaeth, gan na fyddai raid iddo falu cerryg mwyach: a'i fod yn dychwelyd, nid o angladd Beti yn unig, ond o angladd y mwrthwl a'r twr cerryg hefyd. Gofidus yw gorfod addef ddarfod i Shôn roddi gradd o groeso i'r syniad newydd hwn, ac mai mewn agwedd meddwl braidd yn iach ac amhriodol i'r amgylchiad y gosododd ei fawd ar glicied y drws, ac yr aeth i mewn i'r ty. Ar bwys yr ochr oleu yma i ymadawiad Beti tarawodd ei het ar yr hoel gyda mwy o rym nag o ras—yn enwedig ac ystyried fod cylch llydan o frethyn du ar yr het: tynnodd gadach ymylddu o'i boccd ac ysgydwodd ef yn egniol, ond mewn dull oedd yn creu amheuaeth o'i gymhellion,—nid oedd modd gwybod i sicrwydd pam yr ysgydwai ef: pa un ai ei ysgwyd i gael y plygion ohono wnai, ynte ei gyhwfanu fel arwydd o ffarwel buddugoliaethus i'r mwrthwl a'r twr cerryg. Ond yr oedd un wedi dal ar yr ymddygiad dieithriol hwn, a phan oedd Shôn yn ymbaratoi i eistedd trwy gasglu lapedi ei got i'w gesail, "Ewch i falu · cerryg Shôn, rhag cwilydd," ebe'r parrot yn llais llym ac awdurdodol yr ymadawedig. Daeth sydynrwydd y llais hwn a Shôn ato ei hun, gan ei ryddhau