o afaelion yr yspryd drwg oedd yn ei arwain ar gyfeiliorn dan y brofedigaeth. Sylweddolodd fwy-fwy y golled ar ol Beti, ac ymaflodd galar a hiraeth ynddo gyda nerth adnewyddol.
Ymhen ychydig amser, ar gais y brodyr, symudodd Shôn i dy bychan perthynol i'r achos yr ochr arall i'r ffordd, ar gyfer ty y capel, ac yn hwnnw y treuliodd weddill ei oes. Bu'r parrot ganddo am flynyddoedd, a pharhaodd i adrodd cymhellion ac anogaethau Beti, hwyr a bore, a hanner dydd, ond nid oedd yn peri nemor flinder i Shon. Yr oedd ei gydwybod yn dawel fod rhifedi ei ddyddiau yn gyfryw nad oedd malu cerryg yn ddyled arno mwyach; a medrai wrando gyda gradd o foddhad ar anogaethau dibaid y parrot gan nad oedd dawn orfodol Beti tu cefn iddynt. Trigai yn ddiofal yn ei fwthyn, a'r unig waith gonest gyflawnodd yn ei flynyddoedd olaf oedd beirniadu ei olynydd yn y ty capel gyferbyn.