Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Teulu Bryn Marian

PENNOD I.
ANGLADD A CHOFFAD.

'

'NAWN Sadwrn, yn gynnar ym mis Medi ydoedd, a'r cynhaeaf ŷd yn ei fan prysuraf; ond rhaid i angeu gael ei ysgubau i mewn gan nad ysgubau pwy fydd allan. Tua thri o'r gloch, ymlwybrai cynhebrwng yn araf i lawr llechwedd y fron o Fryn Marian am y fynwent,—yr ydlan y cynhullid ysgubau dynol y fro iddi o 'Roedd Arthur ac Elin wedi bod mewn aml i angladd cyn hyn, ond yng ngodre'r fintai y cerddent bob tro o'r blaen. Nid felly y waith hon—gweddillion eu tad hebryngid. Cerddent heddyw a'u mam rhyngddynt fel prif alarwyr yn y rheng flaenaf—y clwyfedigion o flaen y dianaf—oherwydd dyna drefn arferol byddin y beddau. Bu'r plant yn meddwl lawer tro am angladd eu tad cyn ei ddod.