Pa fachgen neu eneth sydd nad ynt, weithiau, a'u rhieni eto'n fyw, yn deffro yn nhrymder nos ac yn wylo yn hidl wrth weld dydd eu harwyl mewn dychymyg? Ond daw cwsg heibio eilwaith i sychu eu dagrau, ac i'w diddyfnu o'u galar. Codant drannoeth at eu chwareuon a'u gwersi mor ysgafn-galon ag erioed. Ond dyma'r dydd drwg hwnnw wedi goddiweddyd plant Bryn Marian. Nid gweledigaeth ddychmygol canol nos, i ddiflannu ar doriad dydd, oedd yr hers a'r dorf heddyw, ond ffeithiau a sylweddau di-wrthdro. Deallai Pero gymaint a hynny; a phan oedd y cynhebrwng yn cychwyn o'r buarth, ymneilltuodd i eistedd ar hen oglawdd, ac oddiyno gwyliai'r orymdaith heb udiad na chyfarthiad; ond methai a'i hesbonio. Medrai ddeall gorymdaith buches o ddeuddeg o wartheg blithion i'r buarth ac o'r buarth fore a hwyr yn eithaf da, a deallai yn well na hynny orymdaith gyr o ddefaid, yn enwedig os byddai arogl crochan pitch a swn gwellcifiau yn yr awyr; ond yr oedd gorymdaith fel hyn o bobl yn araf gerdded mewn distawrwydd i lawr y llechwedd yn fwy nag a fedrai esbonio. Ni wyddai Pero fod y cerbyd du ocdd ar y blaen yn cario ymaith am byth y llaw a lyfasai ganwaith, ac a fu yn gorffwys yn dyner ganwaith ar ei ben—yr arddodiad dwylaw serchog, answyddogol hwnnw, y gŵyr ci ei werth a'i arwyddocad mor dda.
Yn y ty, yn ffenestr y lloft, yr oedd creadur bach arall yn yr un benbleth a Phero, yn methu deongli'r weledigaeth, er fod y forwyn o helaeth-