hwnnw yn y fro. Yr oedd wedi gwneud hyn am ddeng mlynedd ar hugain yn ddifwlch. Bedd gan William Wmffra oedd yr unig beth a ddarperid yn brydlon a disiom yn y cwmwd. Byddai teiliwr a chrydd yn oedi addewid. Soniai Edward Rolant, y teiliwr, lawer ar ei liniau am dynnu yn rhaffau yr addewidion, a hynnodd yr hen Gristion ynddynt am ei fywyd, 'does neb a wâd. Ond mae lle i gredu fod Ifan Ifan, y crydd, ac yntau yn credu mai pethau i dynnu ynddynt oedd addewidion, oher—wydd yr oedd cwsmeriaid y ddau yn gorfod tynnu yn hir gyda dyfalwch wythnosol yn rhaff rhyw addewid cyn y deuai siwt na phâr o esgidiau. Ond siomodd William Wmffra neb am fedd yn ystod y deng mlynedd ar hugain. Ni fu raid iddo ddweyd, "Ddim yn barod," gymaint ag unwaith, er y bu raid i gydwybod onest yr hen wr sibrwd geiriau felly am gyflwr aml un a roddodd i orwedd yn y bedd a gloddiasai. Ac un o'r rheini oedd ar ei ffordd i'r bedd newydd. Safai yr hen wr yn awr a'i bwys ar ei raw, wedi gorffen y gwaith.
"Rhed i edrach weli di nhw yn dwad, Bob," ebe fe wrth lefnyn o fachgen oedd wedi bod yn ei gynorthwyo.
"Na, 'dydyn' nhw ddim yn y golwg," ebe Bob, pan ddaeth yn ei ol. Yna aeth yr hen wr ymlaen, gan siarad mewn rhan wrtho ei hun, ac mewn rhan wrth Bob,—
"Ma'n syn iawn gin i feddwl fod Dafydd Ifan ar 'i ffordd i'r fan yma heddyw. Mi fum i'n gweini