Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

saith mlynedd ym Mryn Marian, a dydio ond fel doe gin i gofio mai'r gwaith cynta' ges i 'neud oedd rhedeg ar ffrwst i nol y doctor i dderbyn Dafydd i'r byd; a dyma finna heddyw yn mynd i'w dderbyn o i'r bedd. Fel doe, ac eto mae deugian mlynedd wedi pasio. Llawer gwaith y bu nhroed i ar gamfa'r crud yn siglo iddo fo. A phan dyfodd yn grwtyn pump a chwech oed, mi ganlynodd lawer arna' i, yn enwedig pan fyddwn i yn 'redig. Byddai yn meddwl y byd o gael cerdded y gŵys o mlaen i rhwng cyrn yr arad; ond 'chydig feddylies i y pryd hwnnw y basa' fo yn mynnu mynd o mlaen i hyd y gŵys ydw' i wedi agor heddyw. A mynnu mae o wedi 'neud. Mae o ar 'i ffordd yma am 'i fod o wedi difa 'i fywyd yn y dafarn yna. Ond rhaid pasio'r Swan heddyw. Nid oddiwrth 'i dad y dysgodd o lymeitian. Un o'r dynion cywira a duwiola yn y wlad oedd Huw Ifan. 'Doedd o byth yn rhy brysur i gadw dyledswydd, ac yno y ces inna ngorfodi i ddechra, a Dafydd bach, yn grwtyn pedair oed, gariodd y Beibl i mi y tro cynta' o law 'i fam, a fedres i mo'i wrthod o. 'Doedd Sian Ifan fawr o feddwl pan yn edrach arno fo yn croesi llawr y gegin ata' i dan faich Gair yr Arglwydd—a thipyn o faich oedd hen Feibl mawr Bryn Marian iddo fo y pryd hwnnw—y basa' ei heilun bach melynwallt ym medd y meddwyn yn ddeugian oed. Mi fum i—

Dyma nhw," ebe Bob.

Safodd yr hers wrth lidiart y fynwent. Dyma'r porth y deuai hi ato o bob pererindod i gael ei baich