Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i lawr. Dodwyd yr arch ar elor, a'r cwrlid du drosti, a chariodd pedwar y baich trwy'r fynwent i'r capel. Gosodwyd y gweddillion i lawr gyda gofal ar y llecyn cysegredig hwnnw lle yr arferid cynnull y plant at ei gilydd i ddweyd adnodau, a'r lle safasai Dafydd Ifan ganwaith gynt yn rheng ei gyfoedion i ddweyd ei adnod a phennau'r bregeth.

Ond yr oedd blynyddoedd wedi pasio er pan .fu Dafydd Ifan tu mewn i furiau'r cysegr. Lle safasai gan-waith i adrodd y testun, gorweddai heddyw dan y cwrlid du yn destun a phregeth ei hun.

Gwnaed coffad am Ddafydd Ifan, ond nid yn y seiat. Noson yr angladd, eisteddai cwmni lluosog o ddiotwyr ac oferwyr yng nghegin y Swan, fel arfer; ond, er lluosoced y cwmni, yr oedd yn y gongl un gadair wâg—cadair Dafydd Ifan. Dymunai Mr. Morgan, gŵr y ty, i hon fod yn wâg am y noswaith honno o barch i goffadwriaeth ei hen gyfaill. "Y gadair ddwyfraich yna," meddai, "oedd 'i gadair o bob amser. Llawer awr dreuliodd o ynddi. Caiff fod yn wâg heno o barch i'w goffadwriaeth."

Cydsyniodd pawb âg awgrym gŵr y ty. Cadwyd y gadair yn wâg, a bu peth ust a gosteg yn y fangre honno am ysbaid byr ym min y nos. Dechreuwyd coffau am dano gyda chryn lawer o dynerwch a theimlad; ac yr oedd gwers y dydd yn peri i'r rhan fwyaf o'r cwmni alw am eu diod yn llechwraidd a distŵr. Ond wrth goffau ac yfed, yfed a choffau, fe ddirywiodd coffad y cwmni am dano, fel y dirywiodd Dafydd Ifan ei hun dan ddylanwad y ddiod.