Ym medd y meddwyn y dodwyd Dafydd Ifan—un fu unwaith yn dyner ac anwyl yng ngolwg ei fam. Daeth ei goffad yng nghegin y Swan i ddiwedd. cyffelyb. Cychwynnodd yn dyner a theimladwy, ond terfynodd cyn amser troi allan mewn llwon a rhegfeydd. Trodd cegin y Swan ei fywyd, a bywyd ei deulu, yn chwerwder chwerw; a noson yr angladd, i orffen ei budr-waith, hi drodd ei goffadwriaeth yn rhêg.
Mewn cegin arall, yr un noswaith, eisteddai cwmni bychan o dri. Nid oedd yno grechwen na thincian gwydrau, ond yr oedd yno hefyd gadair wâg. Nid oddiar ddymuniad ffugiol neb y cedwid hi felly. Bu yn wâg lawer noson cyn hyn pan fyddai Dafydd Ifan yn eistedd yng nghadair y Swan, ond ni fu mor wâg na fyddai y cwmni yn clustfeinio am swn troed ar y palmant. Llawer ymdrôdd yn y gyfeddach, ond gwyddai'r tri mai nid ymdroi yr oedd heno, ac nad oedd wiw ei ddisgwyl mwy. Eisteddent ar yr aelwyd heb siarad nemawr â'i gilydd. 'Roedd rhywbeth yn eu hanadliad a'u hystum oedd yn peri i Pero gerdded yn ddiorffwys o'r naill i'r llall—mewn rhan i swlffa anwes, ac mewn rhan i geisio dal y gyfrinach. Ond er iddo osod ei ben megis mewn cydymdeimlad ar lin pob un ohonynt yn ei dro, yr oedd gagendor anrhamwyadwy rhyngddo â hwynt. 'Roedd Gwilym yn ei wely ers oriau, ac wedi gwenu llawer drwy ei hun wrth chwarae eilwaith â'i deganau yn y fro ledrithriol honno.