PENNOD II.
SUL A BLODAU.

TRANNOETH, daeth y wawr, a thorrodd ei blwch enaint wythnosol ar ffurf Saboth ar draed lluddedig amaethwyr y fro. Esgynnai'r mŵg o simneiau'r ardal yn blygeiniol, ond nid mor gynnar ag ar y chwe niwrnod, ac nid ymddangosai yn esgyn mor frysiog. Byddai ynddo beth o hamdden a defosiwn arogl-darth ar fore Sul. Cymerai natur oll ryw hamdden santaidd i ddeffro ar fore'r dydd cyntaf yn y wlad. Ond cyn i'r adar bach ddechreu telori ym mherllan Bryn Marian, a chyn i Bet, y forwyn, godi i weini wrth allor y pentan, yr oedd yno un nad oedd ddarostyngedig i unrhyw ddeddf ond deddf ei natur hoenus ei hun, wedi mynd trwy gyfres hirfaith o fabolgampau diniwed. Yr oedd Gwilym bach ar ddihun pan nad oedd y wawr ond briglwyd, ac yr oedd wrthi hi yn brysur yn chwarae ac yn difyrru ei hun trwy geisio dilyn patrwm y cwrlid â'i fŷs rhwng tywyll a goleu. Nid oedd Saboth ar ei ddyddlyfr ef; a chan ieuenged oedd, nid oedd marw ei dad wedi amharu dim ar hoen ac ynni ei natur. Pan ddaeth pelydrau yr haul i mewn trwy'r ffenestr