Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda thanbeidrwydd sydyn, arafodd Gwilym ennyd, ac ar y foment honno sylwodd fod lle ei dad yn wâg.

"Dada," meddai, gan edrych yn ymofyngar i gyfeiriad ei fam.

Cymerodd hithau ef, gan ei wasgu i'w mynwes, a dywedodd,—

"Dada wedi mynd i ffwrdd."

"Twll du?" gofynnai'r bychan wedyn, fel yr oedd y cof am weithrediadau y diwrnod cynt yn deffro.

"Ie, nghariad i," ebe hithau, gan ei gusanu drachefn.

"Dada bach twll du," ebe yntau, mewn llais galarus, a'i wefusau bychain yn ddrych o dosturi. Eisteddai am foment mewn dwys ystyriaeth. Cymerai greddf y chwarae afael ynddo drachefn; codai ar ei draed, safai ar y gobennydd, ac ymdaflai, fel dyn yn ymdrochi, i blygion y dillad, a chymysgai iaith gofid a galar â'i afiaith diniwed.

Pan oedd Gwilym rhwng tywyll a goleu yn ceisio olrhain y patrwm ar y cwrlid â'i fŷs, ac yn chwerthin rhyngddo âg ef ei hun wrth fethu, yr oedd ei fam hithau ar ddihun yn ceisio olrhain y patrwm ar gwrlid arall—hen gwrlid rhagluniaeth, a'i batrwm troellog, ac yn torri i wylo wrth fethu. Nid y wawr oedd yn torri heddyw a daflai oleuni ar y patrwm hwnnw, er mai gwawr Saboth ydoedd. 'Roedd raid i Gwen Ifan, fel i aml un arall, aros i wawr y Saboth tragwyddol dorri cyn y medrai olrhain y patrwm hwnnw.

'Roedd diluw y dydd yn awr yn dechreu gor-