Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lifo y wlad, ac yr oedd y gwartheg blithion yn y cae dan y ty yn erfyn gyda phob taerineb am i Bet a Wil frysio hefo'u cunogau. Yr oeddynt wedi brefu nes diflasu ar eu sŵn eu hunain—pob un ohonynt a'i phwrs yn orlawn, ac wedi bod yn erfyn ers rhai oriau am i rywun ddod i dderbyn eu cynnwys. Byddai eu taerineb yn fwy ar fore Sul, am y byddai eu baich yn drymach. Godrid braidd yn gynarach nag arfer ar bnawn Sadwrn, er mwyn cael amser at orchwylion eraill; a rhedai yn hwyrach nag arfer ar fore Sul.

Agorodd Wil y llidiart, ac aeth pob un o'r gwartheg yn ddiymdroi i'w lle ei hun yn y beudy. Erbyn i Wil orffen eu rhwymo, yr oedd Bet wedi cyrraedd gyda'r llestri godro. Ar ol iddi gyfarch gwell i Wil, trwy ddweyd ei fod heb ddeffro yn iawn, ac iddo yntau nodi cynifer o'i rhagoriaethau hithau ag a fedrai gofio ar y funud, cymerodd y ddau bob un ei 'stol a'i 'stên, gan ddechreu, un ymhob cwr i'r beudy, a godro i gyfarfod ei gilydd. 'Roedd hon yn hen ddefod, ac yn hen ddefod fuddiol iawn. Mae'n debyg mai y rheswm am dani oedd na fedrai y gwas bach a'r forwyn, neu pwy bynnag fyddai yn godro, ddim 'sgwrsio yn hwylus, nes byddent bron ar ben, ac wedi dod at y ddwy fuwch yn ymyl ei gilydd yn y canol.

Pan ddaethant o fewn cyrraedd siarad,—

"Wil!" gwaeddai Bet—'roedd raid siarad yn weddol uchel hyd yn oed yn awr, gan fod y llaeth yn trystio wrth bistyllio—" Oedd yna lawer yn y fynwent ddoe?"