Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

braidd i feddwl pwy oedd wedi'i hanfon nhw. 'Dasa dipyn o blwc ynnot ti, mi faset wedi stelcian yn y fynwent tan ai pawb oddiyno, gael iti thaflu hi dros y gwrych i'r afon."

"Nid ar Mr. Morgan mae yr holl fai am bob dyn sy'n troi allan o'r Swan yn feddw," ebe Wil.

"Mi wn i hynny," ebe'r forwyn; "mi wn i gystal ag undyn fod mistar ar fai fod yn ymdroi ac yn yfed yn y Swan o hyd; ond fasa mistar 'i hun byth yn gwirioni dyn â diod, ac yn 'i daflu o i'r ffos yn ddiseremoni ar amser cau. Bloda' o'r Swan ar 'i fedd o wir! Mi fase'r priddyn coch, heb flodyn o'r fangre honno ar i gyfyl 'o, yn gorffwys yn 'sgafnach, ar weddillion mistar; a mae'n syn gen' 'i na fasa fo'n gorffwys yn 'sgafnach ar gydwybod Mr. Morgan."

"Twt, 'rwyt ti'n rhy benboeth," ebe Wil; a pheth arall, mi welodd mistres y dorch floda' yn cael 'i rhoi ar y bedd gan wr y Swan."

"Fasa ti ddim yn disgwyl iddi hi wneud helynt wrth y bedd? ond mi wn beth oedd 'i theimlad hi heb iddi ddweyd wrtha 'i; a mae yn syn iawn gen' i os caiff y bloda' lonydd yno."

"Mae yn well iddi hi adael llonydd iddyn' nhw; mi fyddan' wedi gwywo cyn hir."

"Daswn i yn 'i lle hi fasan' nhw ddim yn cael llonydd."

"Dasa ti yn 'i lle hi, ac yn gwybod yr hyn wn i, mi fasa'r bloda' yn cael eitha' llonydd gen' ti."

"Be' wyt ti'n feddwl?"