Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfrifoldeb y godro, a gwnaeth osgo i ddifrifoli, a meddai mewn llais dipyn yn geryddol,—

"Sut yn y byd y buost ti mor ddilun, Wil? Colli llond 'stên o laeth da! Mae'n gwilydd iti. Edrych ar dy ddillad. Gorffen ditial gael iti fynd i lanhau dy hun. A chofia mai Sul ydi hi. 'Does fawr o amser tan fydd raid i ni hwylio i'r capel."

Tuag ugain munud cyn deg, gwelid Gwen Ifan ac Elin yn cychwyn i'r capel, a'u gwisg—gwisgoedd galar—cyn ddued ag eiddo y brain di-ŵyl a di-alar oedd yn crawcian yn y coed tu cefn i'r ty. Yr oedd y fam oddeutu deugain oed, ac ystyrrid hi gan bawb yn wraig o gynheddfau cryfion, ac o gymeriad cywir a dianwadal. Nid oedd yn enedigol o'r fro, ond hannai o hen deulu parchus dros y drum. Pan ddaeth yn wraig i Fryn Marian nid oedd ond newydd adael ugain oed. 'Roedd Dafydd Ifan yn ddyn ifanc tyner a charedig, a hoffus gan bawb, ond yr oedd ymhell o fod yn ddirwestwr y pryd hwnnw. Yn cerdded gyda hi yr oedd Elin, ei hunig ferch, yn ddwy ar bymtheg oed. Mewn distawrwydd y cerddent. Pan oeddynt yn pasio yr eglwys, dechreuodd y clychau ganu—tair cloch, a thinc hiraethus ynddynt. Torrodd Elin i wylo—ni wyddai yn iawn pam. Yr oedd wedi ei magu yn sŵn mesmeiriol hen glychau y llan, a chyffyrddodd hwnnw heddyw â rhyw brofiad newydd yn ei mynwes.

Ymhen tipyn ar ol iddynt basio yr eglwys, a chyfarfod ambell i eglwyswr yn mynd i'r gwasanaeth—ychydig iawn oeddynt yn yr ardal—daeth