Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Morgan y Swan i'w cyfarfod, yntau ar ei ffordd i'r eglwys.

"Bore da, Mrs. Evans," ebe Mr. Morgan, "sut yr ydach chi? Mae yn ddrwg iawn gen' 'i am y'ch profedigaeth chi. Os medra' i wneud rhyw-beth i'ch helpio, mi fydd yn bleser mawr gin 'i wneud hynny."

"Diolch i chi, Mr. Morgan," ebe hithau, "'does gen' 'i ddim eisiau dim;" a cherddodd ymlaen yn lled ddisgwrs.

Ar ol mynd ychydig gamau, safodd yn sydyn, a galwodd ar Mr. Morgan, ac aeth yn ol i'w gyfarfod, a dywedodd dan ei llais heb i Elin ei chlywed,—"Mae gen' 'i un cais i'w wneud atoch chi."

"Ar bob cyfrif, Mrs. Evans," ebe yntau. Byddwch gystal a chymeryd y wreath roisoch chi ar fedd Dafydd ddoe i ffwrdd."

Cerddodd y weddw ymlaen, ac ni chafodd y tafarnwr gyfle i ofyn cwestiwn, ac y mae yn debyg na roddodd ei gydwybod unrhyw gefnogaeth iddo i ofyn un.

Cyrhaeddodd y ddwy at lidiart y fynwent. Safai y capel yn y cwr pellaf iddi. Wrth gerdded drwy y fynwent i'r capel, pasient y bedd o fewn rhyw bum llath. Edrychai Elin ar y dorch honno yn arbennig.

"O, 'drychwch mor dlws ydi torch Mr. Morgan," ebe hi.

Aeth y ddwy i mewn i'r cysegr. Torch o flodau tlysion o ardd y Swan oedd ar feddwl Elin; yr un