dorch oedd ar feddwl ei mam, ond ei bod yn ei dychymyg hi wedi ymffurfio yn sarff dorchog.
Aeth Gwen Ifan i'r cysegr y bore hwnnw gydag offrwm o lidiowgrwydd, ac edrychodd y nefoedd ar Gwen Ifan ac ar ei hoffrwm.
*****
"Ydi dy fam yn mynd i aros adre' heno, Elin?" gofynnai Beti Huws i Elin pan oedd yn mynd o'r ysgol yn y pnawn.
"Ydi, 'rwy'n meddwl," ebe hithau.
"Dywed wrthi hi," ebe'r hen wraig, "y do' 'i acw yn gwmni iddi hi."
Gwreigan weddw oedd Beti Huws, ac un a gawsai fwy na chyffredin o brofedigaethau y byd.
Pan oedd clychau yr eglwys yn galw i wasanaeth yr hwyr, 'roedd Beti Huws yn camu dros drothwy ei bwthyn, ac yn cyfeirio ei chamre tua Bryn Marian. Pan oedd hi yn y cae dan y ty, 'roedd Elin a'r gwas a'r forwyn yn ei chyfarfod yn mynd i'r capel. Aeth i mewn i'r ty heb guro, oherwydd yr oedd Gwen Ifan yn disgwyl am dani, ac nid oedd curo drws yn arferiad rhwng cymdogion ar delerau cyfeillgar â'i gilydd.
"'Roeddwn i yn meddwl fod yn rheitiach i mi ddod yma yn gwmni i chi, Gwen, na mynd i'r capel heno," ebe Beti Huws ar ol agor y drws.
"Dowch ymlaen, Beti," ebe Gwen Ifan, "'rydach chi yn garedig iawn."
Eisteddodd y ddwy un o boptu'r tan i 'sgwrsio. Gwraig radlon a charedig oedd Beti Huws, ac un a