chanddi gryn lawer i'w ddweyd ymhob man, ond yn y seiat. Byddai ysbryd mud, ond perffaith Gristionogol, yn ei meddiannu yno. Ni ddywedai air of brofiad, ac ni cheid ganddi gymaint ag adnod. Yr oedd yn haws ganddi aros ar ei thraed am dridiau a theirnos, heb roddi hûn i'w hamrantau, i weini ar un o'i chyd-fforddolion yn rhydiau yr afon, nag adrodd yr adnod leiaf yn y seiat.
Yr oedd Beti Huws yn un o'r rhai cymhwysaf i fynd i Fryn Marian i warchod gyda Gwen Ifan. Yr oedd yn berffaith iach ei chalon, ond iechyd creithiog ydoedd,—iechyd a dioddefaint y tu cefn iddo; iechyd a thynerwch a meddylgarwch dano. Yr oedd ganddi galon wedi ei pherffeithio trwy ddioddefiadau, a chorff wedi dal y driniaeth yn rhagorol.
Treuliodd y ddwy yr amser i siarad mewn ysbryd gweddus i'r amgylchiadau a'r diwrnod dan yfed cwpanaid o dê yn hamdden a thawelwch gwarchod ar nos Sul. "Tê a bara 'menyn" oedd ar y ford, ond yr oedd defosiwn a hunanymholiad fuasai'n gweddu i fwrdd y cymun yn y ddwy oedd yn cyfranogi ohono. Pe buasai rhyw law anweledig yn cipio'r hen debot ystlysddu oddiar ffon y grat, ac yn rhoi costrelaid o win yn ei le, ac yn rhoi bara o doriad y cysegr ar y plât yn lle y brechdannau fe allasai'r ddwy o ran cywirdeb eu hysbryd fynd ymlaen i gyfranogi ohono, a bwyta ac yfed yn deilwng neb newid y 'sgwrs. Nid oedd raid newid yr elfennau i'w wneud yn sacrament. Mae y gwpan dê,—yn rhy fynych cwpan y chwedlau a'r gwagedd,—