Prawfddarllenwyd y dudalen hon
wedi bod cyn hyn yn gwpan y gwaed o'r Testament Newydd ar aml i ford; ac mewn aml i fwthyn mae'r bara haidd wedi bod yn fara yr heddwch sydd trwy'r gwaed, er i'w liw fod yn ddigon du, a'i grystyn yn ddigon caled, heb unrhyw weinidog ordeiniedig yno, ond Gweinidog y gysegrfa a'r Gŵr a ordeiniodd Efe. Mae profedigaethau a chystuddiau yn weinidogion ordeiniedig y nefoedd i weinyddu y sacrament hwn o ba beth bynnag ddigwyddo fod ar y bwrdd.