Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.
SIAMS.

N

NID tyddyn bychan oedd Bryn Marian, ond, yn iaith fesuronol amaethwyr y fro, "lle i odro rhyw ddeg." Gŵyr y cyfarwydd beth olyga hynny, a medr rifo a phrisio yr holl stoc, o'r ceffylau i'r cywion gwyddau, yn weddol gywir heb unrhyw fanylion pellach. Ystyrid hi yn un o'r ffermydd mwyaf dewisol yn y cwmwd. Nid oedd ei rhent yn drwm ac yr oedd llawer o'r tir o ansawdd rhagorol. Nid yn fynych. ychwaith, y ceid fferm a chystal graen ar yr adeiladau. 'Roedd y beudai yn newyddion, ac mewn cywair rhagorol. Ac am y ty—er nad oedd yn rhyw ddiddos iawn—yr oedd ei hynafiaeth yn cuddio lliaws o'i feiau, ac yn gosod rhyw urddas arno. Ei bai fel fferm oedd ei bod yn lle blin, oherwydd ar lechwedd y fron y lled-orweddai—ei phen uchaf yn gorffwys ar obennydd o farian ac eithin, a'i thraed yn y cwr isaf yn yr afon. Safai'r ty yng nghysgod llwyn cymysg o dderw ac ynn, a chysgod da oedd lawer pryd; ond pasiai cytran helaeth o'r deuddeng mis heibio heb i neb yn y lle sylwi fod y coed yno. Ond tua diwedd