Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hydref byddai'r dail a'r mês a'r tuswau cynffonnog wrth chwyrlïo a syrthio yn y gwynt, yn ei gwneud yn ormod camp anghofio'r coed. 'Roedd y ty wedi ei wneuthur o garreg wedi ei naddu yn betrual, y ffenestri yn fychain, ond y porth yn eang ac urddasol. O flaen y ty yr oedd gardd—wedi ei bwriadu i fod yn ardd flodau—ond yr oedd yr arfaeth honno heb ei dwyn i ben. Glaswellt oedd yn tyfu yno, gydag ambell dwmpath o bren bocs i dorri ar unffurfiaeth yr olygfa. 'Roedd llwyn o wermod lwyd a llwyn o lysiau'r fam yn nodio yn foesgar a difalais ar ei gilydd yn yr awel—un o boptu'r drws. 'Roedd llwybr y ffrynt o balmant mân tlws, a cherryg gwynion wedi eu gosod fel rhwydwaith arian addurnol wrth ei weithio. Yn union o flaen y drws 'roedd y cerryg gwynion wedi eu gosod i ffurfio "D.E."—taid y diweddaf fu yn gwisgo y llythrennau; ond yr oedd glaswellt wedi darnguddio y llythrennau o olwg y genhedlaeth bresennol.

Ar dalcen y ty yr oedd plyg o eiddew trwchus, lle nythai adar y tô, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth. Rhwng y ty a'r beudai yr oedd rhyw hanner cant o lathenni. Safai'r adeiladau hyn yn hanner cylch ar ffurf pedol, a safai'r cytiau moch ar un sawdl i'r bedol, a hofel droliau ar y sawdl arall.

Gallesid dweyd, wrth edrych ar amgylchoedd y ty, a'r beudai, y cloddiau, gwrychoedd, a'r llidiardau, nad oedd yno neb ym Mryn Marian wedi derbyn helaethrwydd o'r ddawn i fod yn dwt. Ond yr oedd yn anodd i Dafydd Ifan gadw'r lle yn dwt, ac