Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yntau yn diota o fore hyd hwyr. A phan ddaeth yr alwad am dano, ni chafodd amser i dwtio dim cyn mynd; a phe cawsai, yr oedd ganddo beth rheitiach i'w dwtio na chloddiau a gwrychoedd Bryn Marian. Ond mynd fu raid, a gadael y bylchau a'r adwyon, y mieri a'r ysgall, fel yr oeddynt ym Mryn Marian, ac yn ei enaid ei hun.

Rhedai nant i lawr un ochr i'r buarth, yn ddwfr gloew grisialaidd. 'Roedd ei tharddle yn y mynydd pell, a'i chamre cyntaf yn cael eu rhoi rhwng y brwyn dan sisial ganu; ond fel y nesâi at y gwaelodion, cynyddai mewn nerth, ac yr oedd digon o ddwfr ynddi yng ngheunant Bryn Marian i wneud cennad tywydd i'r fro am gylch o dair neu bedair milltir. Byddai distawrwydd neu lafar y ceunant yn argoeli rhywbeth bob amser. 'Roedd y ceunant yn ddwfn, wedi ei gafnio gan dreigliad y dŵr prysur ers llawer oes. Ni wyddai neb pa mor bell yn ol y dechreuasai y dŵr ar ei waith. Rhoddir llawer o bris ar hên gerfiadau mewn pren a maen, a chyrchir o bell ffordd i'w gweld; ond mae yna ryw swyn yng ngherfiad y dŵr mewn ceunant na cheir mewn un-peth o waith llaw. Cerfiwr yw hwn na rydd hun i'w amrantau. Mae ei gynion a'i fwrthylion ar waith o fore hyd hwyr, ac o hwyr hyd fore. Nid oes awr ginio na noswyl, ond yr un noswyl fawr gyffredinol, ac ni ŵyr y nant am honno.

Yr ochr uchaf i'r beudai yr oedd y gadlas, neu'r ydlan, lle y byddai y teisi a'r cyrnennydd. 'Roedd rhan o'r cynhaeaf wedi ei gario i mewn eisoes, a rhan