Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall yn y maes—peth yn ei deirgafr, peth yn ei wythau, a pheth yn waneifiau heb ei gynnull. Y pryd hwnnw, byddai un ran o dair o'r tir o dan ŷd, ynghyda rhyw ddeng neu bymtheng acer dan wair. Defnyddid yr ŷd—ceirch a haidd yn bennaf—gydag ychydig wenith, i borthi dyn ac anifail. Mae goruchwyliaeth y "bara ceirch" yn hên, a bellach yn agos i ddiflannu, ac am y bara haidd, "ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy."

Yn arwain i fyny at y ty yr oedd ffordd igam-ogam, er mwyn osgoi wyneb gallt, ac yng nghwr isaf y ffordd hon yr oedd y bont y cyfeiriwyd ati eisoes yn croesi yr afon. Ar gŵr tir Bryn Marian, ar yr ochr chwith, yr oedd llain o dir dan goed ffawydd gweddol ifanc,—nid oedd ond rhyw ugain mlynedd er pan gawsent eu plannu,—a chai y cwningod, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth, noddfa ddiogel yno,—i'r sawl fedrai gyrraedd iddi; ond yr oedd Pero wedi goddiweddyd aml un ar ei ffoedigaeth, ac yr oedd maglau Wil, y gwas bach, wedi sefyll rhwng aml un a'r ddinas noddfa.

Terfyn y fferm yn y cwr uchaf oedd clawdd y mynydd, a thu hwnt i hwnnw yr oedd y grug a'r brwyn, heb glawdd am saith milltir, ond clawdd gardd ambell i fwthyn tô gwellt yma ac acw. Yma yr oedd cynefin Bryn Marian, ac nid Bryn Marian yn unig, ond cynefin pob fferm oedd a'i thir yn cyffwrdd y mynydd, a rhai heb fod yn cyffwrdd. Ond er fod gan y defaid saith milltir a rhagor o le i grwydro, byddent yn glynu yn rhyfeddol o ffyddlon