mewn rhyw gŵr ohono, yn eu cynefin eu hunain. Y ffriddoedd oedd y tir llafur agosaf i'r mynydd—tir wedi ei ennill oddiar y mynydd mewn amseroedd diweddar. 'Roedd dwy ohonynt wedi eu hennill felly o fewn cof Dafydd Ifan, ac nid gwaith ysgafn mohono. Yr oedd "gwthio" yn galed-waith, ond yr oedd rhyw swyn rhyfedd mewn mŵg llosgi batin—byddai yn mud-losgi am ddyddiau, weithiau am wythnosau, ac yna chwelid y lludw llwydgoch dros wyneb y tir, a chyrchid calch o'r odynnau i'w chwalu arno.
Mawn losgid yn y mwyafrif o'r anedd-dai yn y cwmwd, ac yr oedd y mynydd yn dwyn tystiolaeth i hynny, oherwydd gwelid teisi mawn yma ac acw hyd-ddo yn aros eu cludo i lawr yn ol yr angen.
Yng nghwr pella'r buarth yr oedd tomen, a'r ferfa a'i hwyneb yn isaf arni, a'i breichiau i fyny fel yn gwaeddi am i Siams ddod yno i'w chodi. Yng nghyffiniau y domen yr oedd llinynnau bywyd Siams wedi disgyn, ac ymddangosai yn dra bodlon i'w sefyllfa. Ni ddoniwyd Siams â llawer o'r hyn eilw y byd yn synnwyr, ond fe'i doniwyd â thipyn o'r hyn a eilw rhyw hen lyfr, sydd braidd allan o ffasiwn mewn rhai cylchoedd, yn ddoethineb. Ni welwyd ef erioed ar lwyfan, ond llwyfan y domen. Llawer berfâd hwyliodd Siams i fyny i hwnnw hyd ryw ystyllen gul, ac ni faliai rhyw lawer faint o gynnwys y domen fyddai yn glynu wrth ei ddillad. Ond nid oedd ronyn o wahaniaeth beth fyddai cyflwr ei wisg, byddai Siams yr un—un o dani bob amser—