yn foneddigaidd, a hawdd ei drin. 'Roedd felly gyda'i fistar, Dafydd Ifan, pan oedd yn fyw; a'r un fath, yn foneddigaidd a hawdd ei drin, gyda Wil y gwas bach—yn rhy hawdd ei drin braidd i un o fath Wil.
'Roedd Siams, pan fu farw Dafydd Ifan, yn tynnu at drigain oed. Yr oedd wedi bod yn ei wasanaeth, bellach, ers oddeutu ugain mlynedd. Yr oedd wedi bod yn briod, ond am gyfnod byr—rhyw ddwy flynedd. Bu farw ei wraig ar enedig—aeth plentyn. Cymerodd chwaer iddo y plentyn i'w fagu gyda'i phlant ei hun, a symudodd honno cyn hir o'r wlad i fyw heb yn wybod i Siams, ac aeth a'i blentyn ef gyda hi, ac ni chlywodd Siams siw na miw yn ei chylch ar ol hynny.
Yr oedd Siams, ers tua deuddeng mlynedd, yn cael y fraint o gysgu yn y tŷ, yn lle yn llofft y stabl, lle y cysgai y gwas a'r gwas bach. Anaml y byddai y gwas a'r gwas bach yn aros yn hwy na dwy neu dair blynedd, ond yr oedd Siams yno o flwyddyn i flwyddyn. Heblaw hynny, yr oedd yn dda ganddynt ei gael yn y ty, oherwydd yr oedd yn llawer o gwmni iddynt.
'Roedd Elin a Siams yn ffrindiau mawr er pan oedd hi yn groten fach yn dechreu cerdded. Llawer hwyliodd arni yn y ferfa wrth fyned i 'nol maip; a phan fyddai yn eistedd ar y ffenestr tu draw i'r bwrdd mawr i fwyta, byddai Elin yn mynd dan y bwrdd ato, ac yntau yn ei chodi ar ei thraed ar fainc y ffenestr. 'Roedd Siams yntau yn hoff neilltuol