o blant, a soniodd lawer wrthi hi am ei fachgen bach ei hun, Hywel, a byddai deigryn dirgelaidd yn dianc dros ei rudd.
Bu Elin i ffwrdd yn yr ysgol am ddwy flynedd, a phan fyddai yn ysgrifennu at ei thad a'i mam, byddai yn anfon ei chofion at Siams, ac ambell waith byddai yn anfon llythyr iddo, a gelwid am wasanaeth Wil, y gwas bach, i'w ddarllen a'i ddehongli, a byddai Wil am hir amser yn darllen popeth allan ohono ond yr hyn oedd ynddo; ond yr oedd digon o onestrwydd yng nghalon Wil i ddarllen yn gywir cyn y diwedd.
Yr oedd Elin wedi gorffen ei hysgol ers rhyw flwyddyn cyn colli ei thad, ac yr oedd yn awr yn eneth ddwy ar bymtheg oed. Pwysai marwolaeth ei fistar yn drwm ar feddwl Siams; ofnai y gallai arwain i gyfnewidiad ym Mryn Marian, ac na elwid am ei wasanaeth ef mwy, ond eto yr oedd ganddo dipyn o obaith yng nghyfeillgarwch Elin. Yr oedd Gwen Ifan yn garedig iawn wrtho bob amser, ond yr oedd yn haws gan Siams ddweyd ei gwyn wrth Elin nag wrth neb arall.
Ymhen ychydig ddyddiau ar ol claddu Dafydd Ifan, ar ddiwrnod glawog, 'roedd Siams ac Elin yn gwneud rhaffau—Elin yn troi, a Siams yn gollwng. Gorseddfainc Siams, pan wrth y gwaith hwn, fyddai y pec a'i waelod i fyny; ac yn y ffodrwm, fel rheol, y gwneid hwynt, yn enwedig ar ddiwrnod glawog, am y byddai tipyn o hyd yn yr ystafell, a gellid gwneud rhaff a hyd da iddi heb i'r trowr fynd allan