i'r glaw. Wrth ddechreu yr ail neu'r drydedd raff, ebe Elin,—
"Rwyt ti'n ddistaw iawn heddyw, bedi'r mater?" Ti ddywedai pawb ohonynt wrtho, ac felly Elin. Ti ddywedai Siams wrthi hithau.
"Tybed fydd raid i mi fynd odd'ma, Elin, ar ol y cynhaea?" ebe Siams.
"Be' sy'n peri i ti feddwl hynny," ebe hithau. "Ofni 'roeddwn i y galla' cyfnewidiad gael 'i 'neud 'rwan," ebe yntau.
"O, mi 'rwyt ti yn reit sâff, mi fyddi yma tra bydd mam a finna' yma. 'Does gin 'i fawr o ddylanwad ar mam pan fydd gin i eisio ffrog newydd, ond mae gin i ddigon o ddylanwad ar mam i fedru dy gadw di yma; a mae gin mam 'i hun ddigon o afael ynnot ti, fel na raid i ti ddim ofni cael dy droi i ffwrdd."
Faswn i ddim yn leicio mynd i ffwrdd 'rwan. Mi fasa'n well gin i aros yma am ddim ond 'y mwyd a nillad, heb yr un geiniog arall o gyflog, na'i chodi hi oddi'ma. Mae tair blynedd ar hugain er pan ddois i yma—blynyddoedd cyn d'eni di, Elin. Wyt ti o blaid imi aros ?"
"Ydw' debyg," ebe hithau.
Medrai Siams ollwng rhaff gystal ag undyn—rhaff lein wastad; a phan y byddai dau yn cyd-ollwng, a dau yn troi, byddai Elin bob amser yn hawlio cael troi i Siams. Yr oedd yn haws troi iddo—yr oedd yn gollwng yn fwy rhydd, ac felly byddai hithau yn cael y pleser o adael Wil, y gwas