bach, ar ol, yr hyn oedd yn un o brofedigaethau bywyd Wil. Byddai cael ei adael ar ol wrth chwynnu maip, neu afra, neu droi rhaffau, yr un peth i deimladau Wil ag ydyw methu mewn arholiad i efrydydd llafurus ac uchelgeisiol.
Ac nid dyma'r unig fath o raff fedrai Siams ollwng. Siams fyddai yn gollwng rhaff dyledswydd deuluaidd bob bore ar ol brecwast. Dechreuodd ar y gwaith hwn yn amser tad Dafydd Ifan, yr hwn oedd yn hên ŵr defosiynol. Medrodd yr hên ŵr berswadio Siams i ddarllen a gweddio—medrai ddarllen y Beibl, ond ni fedrai ddarllen ysgrifen. Methodd gael ei fab ei hun, Dafydd, i gymeryd rhan yn ei dro, ond fe ofalodd mam Dafydd Ifan, tra bu byw, fod Siams yn gwneud; a phan ddaeth Gwen Ifan yn wraig i Dafydd, fe ofalai hithau bob amser fod Siams yn cadw'r ddyledswydd ar ei thraed. Dywedai Wil, rhwng difri a chwarae, mai yr un weddi fyddai gan Siams bob bore, yr hyn oedd yn eithaf gwir. Ni chafodd Siams y ddawn i amrywio ei ymbiliau o fore i fore, ond cafodd ddawn ddwyfolach na honno—y ddawn i fynd ar ei liniau yn ochr Wil, y gwlach direidus, i anfon yr un deisyfiadau, yn yr un geiriau, ac yn yr un oslef y naill fore ar ol y llall.
Yr oedd Gwen Ifan yn wraig a fedrai edrych ar ol pethau y fferm tu allan cystal a llawer dyn; a phan fu farw ei gŵr, cafodd y gwas, a Wil, a phawb ohonynt deimlo y medrai hi lywodraethu yn ddigon deheuig. Ymhen rhyw dair wythnos ar ol claddu