Clawdd Terfyn

YN ol yr awdurdodau goreu, O ddyddiau daearyddiaeth Robert Roberts, Caergybi, i lawr, saif plwy Llangernyw yn rhywle tu mewn i ffiniau'r Temperate zone; ond yr oedd dwy ffarm yn taro ar ei gilydd yng nghanol y plwy, y gallesid eu hystyried flynyddoedd yn ol fel yn gorwedd yn y tropics, a hynny ar gyfrif y tanbeidrwydd anghymdogol oedd yn nheimladau'r naill ffarmwr at y llall. Bodrach a'r Frwynos y gelwid y ddwy ffarm, ac ar lafar y plwy, Bodrach a'r Frwynos y gelwid y ddau ffarmwr hefyd; ond Tomos Bifan oedd enw'r naill, a Pitar Huws oedd enw'r llall. Bu poethwynt ystormus gwastadol yn chwythu dros y clawdd terfyn rhyngddynt am ddeng mlynedd ar hugain, ac ni chaed gosteg tan ddaeth rhybudd i'r ddau oddiwrth y tirfeddiannwr,—yr unig dirfeddiannwr yn y plwy, ac unig dirfeddiannwr pob plwy arall, yn ol rhyw hen