Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Dafydd Ifan, yr oedd yr ŷd wedi ei gael i ddiddosrwydd. Yng nghorff yr amser hwnnw yr oedd Mr. Morgan y Swan wedi cyfarwyddo ei gyfreithiwr i ysgrifennu at Gwen Ifan i ddweyd wrthi fod dyled Dafydd Ifan iddo pan fu farw yn dri chant a phedwar ugain o bunnau, ac y disgwyliai iddynt gael eu talu ar unwaith. Anfonwyd beiliaid i Fryn Marian, a gwnaed y paratoadau angenrheidiol i wneud sale yno.
Gwyddai pawb mai amcan Mr. Morgan oedd cael y fferm i Henry ei fab, a chafodd addewid am dani gan y tirfeddiannwr, yr hwn oedd yn eglwyswr a thori. Gwrthodwyd rhoddi cymeriad y fferm i Gwen Ifan, a chafodd rybudd i ymadael oddiyno. Gwnaeth hithau ei meddwl i fyny i fynd i fwthyn bach tô gwellt, a gwerthu popeth.