PENNOD IV.
WYNEBU DRYCIN.

HOFFA pob plentyn i enw ei gartre dynnu sylw y byd a'r betws, ond nid trwy gyfrwng hysbyslenni ar y parwydydd yn cyhoeddi arwerthiant gorfodol yno.
A phan fo mwrthwl yr arwerthwr, wrth ddisgyn ar y stoc, yn malurio cartre yr un pryd, nid gwaith pleserus i'r plentyn yw edrych yn wyneb anhawddgar yr hysbyslen. Gall estron sefyll yn hamddenol a hunan-feddiannol i lygad-rythu arni, a'i darllen drwodd, i edrych a oes siawns am fargen; ond i'r plentyn sy' wedi arfer cyfri'r lle yn gartre, caled yw yr ymadrodd, ac â o'r tu arall heibio. Am bythefnos cyn yr arwerthiant ym Mryn Marian, ni fedrai Elin fynd i unlle o fewn cylch o bum milltir heb orfod pasio llu o hysbyslenni ag enw ei chartre mewn llythyren fras arnynt. 'Roedd gŵr prysur y piser glud a'r brws wedi bod o gwmpas yn eu gosod i fyny yn y mannau arferol—drysau anolygus hen furddynod adfeiliedig, ystlys craig weddol lefn, os safai fin-fin a'r ffordd, drysau yr efail a'r felin, a lleoedd cyffelyb. Yr hen bulpudau diweniaith! Cyhoeddant yn ddigon di-dderbynwyneb, wrth dô ar ol tô o fforddolion, dynged