Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwerw y rhai anffodus yn eu hymdrin â'r byd, a mawr yw mintai y rhai sy'n dal sylw arnynt; ac er byrred a saled yw'r bregeth, eithriad yw cael neb ymhlith y gwrandawyr wedi anghofio'r testun.

Cerddai Elin a'i mam gyda'i gilydd un diwrnod, yn y cyfnod hwn, ar neges i ben isa'r plwy', a chalon pob un ohonynt yn llosgi o'i mewn wrth feddwl am y gwerthu. 'Roedd Arthur wedi ei brentisio yn siopwr, er cyn marw ei dad, mewn tref rhyw bymtheng milltir o bellter oddicartref, fel nad oedd o fewn cyfle i yfed holl wermod yr amgylchiadau yn ystod yr wythnosau hyn. "Ydyn' nhw yn mynd i werthu popeth sy' gynon ni, mam?" gofynnai Elin.

"Ydyn', Nel fach," ebe hithau, "mae'n siwr y bydd raid i bron bopeth fynd." A meddai wedyn, ar ol ennyd o ddistawrwydd:—

"Fedr Mr. Morgan y Swan mo'n gwerthu ni, Nel, er mi wranta i fod o yn teimlo ar 'i galon 'neud hynny."

"Be' 'nawn ni, mam, wedyn?" gofynnai Nel.

"O, mi fedrwn 'neud rwbath i ennill y'n tamad," ebe hithau; "wyt ti yn fodlon i 'neud dy ora, Nel fach?"

Ni atebodd Nel ddim, ond teimlodd ei mam hi yn cydio yn saith dynnach yn ei braich, a golchodd tón o ddedwyddwch dros ei chalon drom. Cerddent ymlaen yn syn a phendrist, gan mwyaf mewn distaw—rwydd, ac eithrio siffrwd eu cerddediad trwy gnwd tew o ddail oedd wedi eu cynhaeafu a'u rhencu gan