Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gwynt. 'Roedd corwynt Hydref y dyddiau hynny yn dynwared cynhaeaf yn y coed. Rhuthrai trwy'r goedwig gyda'i gryman miniog, a thorrai y dail i lawr. Deuai heibio drachefn i'w troi a'u troelli. Drannoeth, deuai i'w faes o gyfeiriad arall, a chasglai hwynt yn rhengau i fymryn o gysgod; yna, yn sydyn chwalai hwynt eilwaith i'r pedwar gwynt, i'w rhencu yr un fath drachefn toc; ond er eu torri a'u trosi a'u trin, ni chasglai hwynt byth i ddiddosrwydd yn y diwedd, ond diddosrwydd y ffos. Trwy fydylau dail y corwynt y cerddai Elin a'i mam hyd y briffordd y diwrnod hwnnw. 'Roedd y corwynt ei hun wedi mynd i orffwyso, ond 'roedd ambell ddeilen yn codi ac yn disgyn yma ac acw o'r mydylau, fel pe buasai rhai o blant lleia'r corwynt yn chwarae mîg rhyngddynt.

"Raid i ni fynd o Fryn Marian, mam?" gofynnai Nel.

"Rhaid," ebe hithau, "a mae'n debyg mai i Ty'nrhos yr awn i."

Bwthyn bach, tô gwellt, oedd Ty'nrhos, ar fin y ffordd, ac yr oedd y ddwy erbyn hyn heb fod nepell oddiwrtho. Gorchwyl caled i Gwen Ifan oedd dweyd wrth Elin beth oedd ymlaen, oherwydd gwyddai ei bod mewn oed i deimlo yn ddwys oddi-wrth unrhyw gyfnewidiad o'r fath yn eu hamgylchiadau. Daethant i drofa yn y ffordd, a dacw'r bwthyn tô gwellt yn y golwg. Tŷ gwâg oedd Ty'n-rhos ers rhai blynyddoedd. Begi'r Bendro fu yn byw ynddo ddiweddaf, ac yr oedd rhywbeth tebyg