i euogrwydd wedi ymdaenu dros yr hen fwthyn oherwydd noddi un oedd mor ddirâs yng ngolwg ei chydnabod. Ac wedi marw Begi, ni feiddiodd yr hen dŷ gymaint a chodi ei olygon, a theimlai yn fynych ar ei galon guro ei ddwyfron mewn edifeirwch; ond yr oedd hynny yn ddianghenrhaid. Yr oedd ystormydd a churlaw blynyddoedd wedi gwneud cymaint a hynny o drugaredd âg ef, trwy gymeryd y cyfrifoldeb hwnnw arnynt eu hunain, a'i gyflawni yn effeithiol. Un o ser disberod y cwmwd oedd Begi. Aeth o'i rhod mewn ystyr foesol yn bur ifanc, ac ni fu diwygiad, nac unrhyw atyniad arall, yn foddion i'w dwyn i'w rhod eil-waith. Ond er crwydro ymhell mewn ystyr foesol, bu raid i'w bywyd naturiol hithau gadw o fewn rhod y gosodiad i ddynion farw unwaith. Bu Begi farw, a chludwyd ei gweddillion yn bur ddigost a didwrw trwy lidiart y fynwent.
Lewis Dafydd, y tyrchwr, oedd biau Ty'nrhos. Yr oedd wedi goddef Begi yno am ugain mlynedd heb yr un ddimai o rent. Gwnaeth hynny o drugaredd yn gymysg âg ofn. Ond gwnaeth Begi y bwthyn fel hi ei hun—ni thalodd geiniog o rent am dano yn ei bywyd, a gwnaeth ef mor annerbyniol ym marn y wlad, fel na chynygiodd neb geiniog am dano byth mwy.
Pan ddeallodd Lewis Dafydd fod sale i fod ym Mryn Marian, a bod rhagolygon Gwen Ifan a'r teulu yn dywyll iawn, cynygiodd mewn ffordd bur dyner iddi gael mynd i Ty'nrhos i aros cael rhywle arall.