Diolchodd hithau o galon iddo am ei garedigrwydd, a dywedodd y byddai yn dda iawn ganddi gael mynd yno.
Aeth Lewis Dafydd ati ar unwaith i loewi tipyn ar yr hen fwthyn tumewn a thuallan. Torrodd y gwrychoedd o'i gwmpas, gwyngalchodd y muriau, a rhoddodd dô newydd o wellt arno. A phan ddaeth Gwen Ifan ac Elin i'r golwg yn y drofa, yr oedd Lewis Dafydd wrthi hi yn brysur yn ei doi, ac yn agos a gorffen. Yr oedd eisoes wedi ei wyngalchu.
Ar ol y driniaeth hon, fe adnewyddodd yr hen fwthyn ei ieuenctid. Safai yn awr ar fin y ffordd fel plentyn dwyflwydd—mewn brat glân a chiw-pi; llonnai galon pawb fyddai yn pasio â'i wên ddihoced.
"Mae 'o yn edrych yn ddel iawn, Lewis Dafydd," ebe Gwen Ifan pan ddaeth at y ty. "Be' ddyliet ti, Nel, o ddod i fyw i Ty'nrhos yma?" ebe wedyn.
Ni atebodd Elin ddim; ond yr atebiad oedd yn lleithder ei llygad.
"Gobeithio nad ydach chi ddim yn mynd yn ddigalon wrth feddwl am fadel o Fryn Marian acw, Gwen Ifan," ebe Lewis Dafydd, gan roi anwes i'r tusw diweddaf o wellt oedd wedi roi yn y tô. 'Roedd raid i'r tôwr dynnu ei law yn dyner droion dros bob tusw cyn y ceid ef i orwedd yn ddiddig yn ei le. "Mi fydd y'ch gofalon chi yn llai o lawer, a'ch llwyth yn 'sgafnach; a pheth go sobor ydi i rywun fod yn mynd i oriwaered a gormod o lwyth tu ol iddo fo."