Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wn i ddim fydd 'y 'ngofalon i'n llai ai peidio," ebe hithau. "Lle bynnag bydda' 'i, rhaid i ofalon byw, a byw yn onest, fod arna' 'i."

"Hwyrach," ebe yntau, y bydd yna dipyn o geiniog yn weddill ar ol i chi dalu hynny mae gŵr y Swan yn hawlio; ond mae o yn gwilydd o beth fod i sort 'o yn medru hawlio cymin' oddiarnoch chi. Ydi o yn ffaith, tybed, mai yr hyn 'naethoch chi ynglŷn â'r dorch floda sydd wedi codi 'i wrychyn 'o?"

"Mae arna' 'i ofn mai 'e," ebe hithau, "er mai nid er mwyn ei ddigio fo y gofynnes i iddo 'i chymeryd hi oddiar y bedd. A 'doeddwn i fawr o feddwl ar y pryd fod 'y nghysur i a'r teulu gymin' dan 'i fawd 'o. Ond ran hynny, yr hyn wnes i wnawn i eto, a'r hyn dd'wedes i dd'wedwn i,—yn yr un amgylchiadau—dasa raid i mi golli fy mhen yn gystal a nghartre."

"Mae'n bosib," ebe'r towr, "nad ydi madel o Fryn Marian ddim yn brofedigaeth fawr i chi,—mae y ffarm yn fawr, ac wedi mynd dipyn yn ddi-drefn; a dyna Arthur, y bachgen hynaf acw, wedi cychwyn i gyfeiriad arall, fel na fedrach chi bellach ddim ond disgwyl wrth Gwilym—a mi fydda' hynny yn dipyn o ddisgwyl."

"Na, 'does gen i ddim eisio mynd o Fryn Marian, Lewis Dafydd," ebe Gwen Ifan. "Mi fasa yn dda gin 'y nghalon i dasa ryw ffordd onest yn agor i mi gael aros acw. 'Rydw i yn credu y medrwn i ofalu am y lle, a thalu fy ffordd, cawn i fywyd ac iechyd