Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am dipyn. Ond gan mai fel hyn mae pethau yn dirwyn, rhaid i mi fodloni; a 'rydw i yn ddiolchgar iawn i chi, Lewis Dafydd, am roi Ty'nrhos yn gysgod i mi mewn awr gyfyng, ac am drafferthu fel hyn i dwtio tipyn arno fo. Mi wn i pwy fu yn byw yma ddiwedda', ond wnaiff hynny ddim gwahaniaeth. Mae'r hen fwthyn wedi bod yn wâg ers cwrs o flynyddoedd digon o amser, beth bynnag, i gyflawni dyddiau ei buredigaeth ar ol preswyliad Begi. Hwyrach y medr Nel a finna 'neud rhwbath i ennill y'n tamad yma eto. 'Rydan ni wedi arfer gweithio, a 'does arnom ni ddim ofn gwaith; a 'rydw i yn meddwl y galla' 'i fentro deyd hefyd nad ydan ni ddim yn hollol ddiymddiried yn yr Hwn sydd yn llywodraethu yr hen fyd yma, er fod yn ddigon anodd dygymod â'r syniad fod yr un fu yn brif foddion i ddifetha cysur y teulu yn ystod bywyd Dafydd, yn medru gorffen 'i fudrwaith trwy chwalu y cartre ar ol iddo fo farw."

Pan oedd Gwen Ifan a Lewis Dafydd yn 'sgwrsio fel hyn, 'roedd Cymro, ci ifanc Lewis Dafydd, wedi llwyddo i berswadio Elin i anghofio ei gofid, ac i chwarae tipyn—peth digon amheuthun iddi y dyddiau hynny. Tybiodd Cymro fod yna ddefnydd hwyl ynddi, er fod ei llygad yn drist, a dechreuodd, trwy roi ei ddwy bawen yn ddiseremoni ar ei llawes, a chogio ei phinsio, ac yna ffoi ychydig lathenni, ac yn ol drachefn i geisio gwneud yr un peth. 'Roedd y ddau wedi ymgolli yn y chwarae, ac yn ymlid ei gilydd yn ddilywodraeth o gwmpas y tŷ. O'r