Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diwedd, rhoddodd Cymro ryw naid ledchwith o gyrraedd Elin, heb edrych i ble 'roedd yn mynd, ac aeth yn erbyn bôn yr ysgol, ar yr hon y safai Lewis Dafydd i doi; collodd y towr ei droed, a chadd godwm hyll.

Hen lanc yn tynnu at ei ddeg a thrigain oed oedd Lewis Dafydd, heb unrhyw berthynas ar ei elw i ofalu am dano, ac i gymeryd diddordeb ynddo. Yr oedd wedi byw wrtho ei hun am y deugain mlynedd diweddaf, mewn ty bychan yn y mynydd pell tu hwnt i gynefin Bryn Marian. Nid i ddangos nad oedd ei godwm o fawr o bwys y dywedir hyn, ond i esbonio'r ffaith mai yn lloft pen y gegin ym Mryn Marian y daeth ato ei hun. Ond ni ddaeth ato ei hun mewn nerth ac ie hyd byth wedyn, fel y tystiai amldra o bridd y wadd hyd y doldiroedd a'r llethrau.