Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V.
EIRIOLAETH SIAMS.

T

TRA 'roedd Gwen Ifan a'r plant a'r gweision cyflog yn eu graddau yn gwneud gwar i dderbyn y ddyrnod, ac yn paratoi eu meddyliau i ffarwelic â Bryn Marian, yr oedd Siams yn parhau i wingo yn erbyn y symbylau, ac yn Eisteddai un diwrnod waelod i fyny, mewn gomedd rhoi ei arfau i lawr. yn yr ysgubor ar y pec a'i dwfn fyfyrdod, a choes y ffust yn ei law. Gorweddai y lenffust yng nghwr y cywlas rai llathenni oddiwrtho—effaith uniongyrchol yr ias ffyrnig, ryfelgar, oedd yn ei gerdded y dyddiau hyn.

"Mynd o Fryn Marian," meddai wrtho ei hun, "Gwen Ifan, a Nel, a finna, a gadal i ŵr y Swan ddwad i'r fan yma i dorsythu! Mae ol'i fysedd duon o yn ddigon amlwg ar hanes y lle a'r teulu yma!"—a thaflodd goes y ffust ar ol y lenffust, fel pe buasai y coedyn hwnnw yn gyfrifol am holl anffodion y teulu ers cenedlaethau. Dododd ei ben rhwng ei ddwylaw, a'i benelinoedd ar ei benliniau, i feddwl, a myfyrio, a chynllunio; ac yn yr ystum anarwrol hwnnw cyflawnodd mewn dychymyg