Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar fy muriau, — pob un wedi ei sicrhau wrth y mur a phedwar pin. Y diwedd fu cael ysgwrs ddifrifol â'r Undodwr am ei gredo. Trwy nerth ei resymau, ond yn bennaf oherwydd melusder seiniau ei grwth, profodd i mi ei fod yn fath o Gristion.

Treuliais lawer o'm hamser ar Rodfa'r Môr. Ar ol te gwelid yno hen berson tal yn cerdded yn ol a blaen; a medrais dynnu sgwrs â hwn hefyd. Nid heb beth ofn, oherwydd tybiwn mai gwaith person ar y Sul oedd melldithio dadgysylltwyr a bendithio'r stiward; ac mai ei waith yn yr wythnos oedd darganfod melldithion a bendithion newydd at ei ddau bwrpas. Ond ni soniai yr hen fab hwn am ddim felly. Yn hytrach soniai am bobl ereill, o brif baffiwr y dydd hyd i brif orthrymwr y byd. Yr oedd ei feddwl yn llawn o'r hyn sy'n darawiadol yn hanes y byd, a chanddo ef y clywais i am Hanes a Rhydychen.

Yr oeddwn yn awyddus iawn am wybod i ble'r elai'r athrawon ar y Sul, a holais lawer. Ceisiais wybod hefyd faint o honynt oedd yn ddirwestwyr, gan feddwl troi y rhai nad oeddynt i'm meddwl fy hun am ddiodydd meddwol, — sef mai y diafol a'u dyfeisiodd oll, yn fore yn hanes y byd, fel y byddai dyn syrthiedig yn ysglyfaeth sicr iddo. A mwyaf oedd amynedd a dioddefgarwch yr athrawon boneddigaidd hyn, cryfaf yn y byd oedd fy awydd innau am eu gwneyd mor rinweddol ag oeddynt ddysgedig.

Ryw dro, hwyrach, caf ysgrifennu hanes athrawon cyntaf Coleg Prifysgol Cymru.

Yr un fu a mwyaf o ddylanwad arnaf fi oedd Daniel Silvan Evans, yr athraw Cymraeg. Ychydig ddisgyblion oedd ganddo, gan nad oedd