Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nid dyddiau dreuliwyd yn hollol ofer oedd y dyddiau y bum yn crwydro yn lle mynd i'r ysgol. Dysgais garu prydferthwch natur â chariad angerddol. Bum yn gwylio'r cymylau oddiar ael llawer bryn serth, bum yn synnu at gylchdroion esmwyth y genllif goch wrth edrych arni oddiar gopa craig, darganfyddais nad oedd dyfnder coedwig yn lle unig, dysgais garu miwsig rhaiadrau, — yr oeddwn yn berffaith ddedwydd tan ddoi'r ysgol i'm cof, a than gofiwn mai mewn anufudd-dod i'm rhieni yr oeddwn yn byw. Ond yr oedd bywyd fel hyn yn rhy hapus i bara'n hir; o'r diwedd dywedodd rhywun wrth fy mam fy mod ymhell o'r llan, mewn cwm anghysbell, yn ystod oriau'r ysgol. Dechreuwyd chwilio, a buan y daeth fy holl fai i'r golwg. Yr oeddwn mewn ofn mawr, ac mewn cywilydd mawr. Ond y dychryn mwyaf, wedi diodde'r gosb, oedd meddwl am fynd i'r ysgol yn fy ol.


Yr oedd hen wr gwargam, a llygaid bychain treiddgar ganddo, wedi dweyd wrthyf am wledydd pell. Nid wyf yn meddwl iddo fod erioed o'r ardal, ond soniai beunydd am "awel lem Siberia" ac am "awel falmaidd y de" fel pe buasai'n berffaith gyfarwydd â hwy. Dywedodd hanes y môr wrthyf, ac fel yr oedd rhai'n mynd mewn llongau i wledydd pell, i gyrchu eurafalau a lemonau a phob rhyw hyfrydwch. Penderfynais innau, rhag myned i'r ysgol, ddianc i'r môr. Yr oedd yn well gennyf awel falmaidd y de nag awel lem Siberia; a thybiwn fod yr awel falmaidd tua chyfeiriad codiad haul, — meddyliwn fy mod wedi ei theimlo rai troion pan fyddai'r awyr yn gloewi yn y bore, a cherbyd tân yr haul yn dod dros y mynyddoedd. Codais yn fore, yn yr haf oedd hi, a