Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chychwynnais. Ond daeth lludded mawr drosof, a newyn. Nid oedd y môr yn y golwg o'r mynydd uchaf. Ni welwn ond mynyddoedd heb derfyn arnynt.

Tiroais adre'n ol. Nid oedd dim o'm blaen ond anobaith a'r ysgol. Erbyn cyrraedd adre, yr oeddwn yn wael. Bum mewn twymyn, ac araf iawn y bum yn gwella. Erbyn i mi ail ddechreu mynd ir ysgol, yr oedd athraw newvdd wedi dod.