Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pa bethau yn gyffredin, — ni chei ond siom wrth droi dalennau'r llyfr hwn. Nid oes yma ddim ar bwnc chwerw'r dydd. Yr wyf, er yn fachgen, yn un o argyhoeddiadau cryfion; a rhoddwyd fi mewn ysgol lle dysgid fi fod fy nghrefydd yn heresi a'm barn wleidyddol yn frad. Bu o fewn y dim i mi gashau'r Beibl, a meddwl fod pob crefydd yn rhagrith. Dyna'r perygl y bum i ynddo oherwydd fod rhai yn tybied y dylid gwasgu crefydd, eu dull hwy, ar bob plentyn ysgol. Bum droion mewn cyfwng lle tybiwn fod yn rhaid i mi aberthu naill ai fy awydd am wybod neu fy null o feddwl am bethau ysbrydol. Yr wyf wedi teimlo'n rhy ddwys ar y mater i ddweyd dim am dano mewn llyfr ysgafn fel hwn. Ond gan fy mod yn crynhoi'r gwir a'r difrif i'm tipyn rhagymadrodd, y mae arnaf awydd dweyd fod plentyn yn teimlo argyhoeddiadau crefyddol yn fore, bron heb yn wybod iddo ; mai gyrru'r haearn i'w enaid yw dysgu credo iddo, er mwyn boddhau cydwybod rhywun ei fod yn cael neu'n gorfod derbyn athrawiaeth iach, os bydd hynny yn erbyn unrhyw beth sy'n anwyl iddo; ac mai casineb a dirmyg ga sect yn dâl am geisio proselytio plentyn dan rith ei addysgu.

Wedi i'r gwair goludog gael ei gludo oddiar y gweirgloddiau, tyf clychau'r gog yn ddiddefnydd o ambell dwrr o gerrig. Y mae lle i bopeth, hwyrach hyd yn oed i'r llyfr hwn.

OWEN EDWARDS.