Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CLYCH ADGOF


YSGOL Y LLAN Rhan I


CYN mynd i'r ysgol nid oedd blentyn hapusach na mi yn unlle ar fryniau a mynyddoedd Cymru. Gwyddwn ym mhle y tyfai pob math o flodau, gwyddwn lle'r oedd ugeiniau o adar yn nythu, gwyddwn am bob carreg wen dywynnai mewn aber ac afon. Nid heb ymdrech a thrafferth y cefais y wybodaeth hon, — yr wyf yn cofio fy hun ar fy mhedwar yn y mynydd, wedi'm gadael yno tra triniai fy nhad y mawn, yn ymestyn at goes blodyn y dydd; yr wyf yn cofio fy hun wedi'm caethiwo yn fy nghader fach, ac yn cychwyn, a honno ar fy nghefn, tua'r graian mân oedd yng ngwaelod y ffynnon. Bum yn gwylio'r ehedydd yn ymgolli o'm golwg yn yr awyr; bum yn gwylio'r lleuad yn codi dros y bryn, ac yn gwaeddi arni, mewn ofn, ar bwy'r oedd yn sbio; bum yn gwylio'r eira'n pluo, gan dybied mai gwenyn wedi cael dillad newyddion welwn; ac yr wyf yn cofio'm