glywed dwndwr yr aberoedd bach yr ochr draw i'r llyn. Ac yn sicr, dyna swn clychau filoedd yn codi o'r llyn. Wedi sylwi a chlustfeinio, gwelais fod y swn yn dod ar ol pob awel o wynt. Tybed ai'r tonnau oedd yn canu'r clychau dan gynhyrfiad yr awel ysgafn ? Toc deallais y dirgelwch. Yr oedd miloedd o fân dipynau o rew wedi eu hel at eu gilydd gan y gwynt, wedi'r meiriol diweddaf, i gwrr y llyn; a phan ddeuai'r awel ysgafnaf, curai'r tipynau yn erbyn eu gilydd, gan wneyd swn fel mil o glychau. Nis gwn ai clywed swn tebyg wnaeth i rywrai gychwyn traddodiad fod clychau dinas foddwyd i'w clywed yn y llyn.
Wedi rhyw filldir o gerdded hyd lan y Ilyn, yr ydym yn cyrraedd pentref Llanycil. Nid oes yn y pentref i gyd erbyn hyn ond tri thy ac eglwys, wedi eu hadeiladu ar wastadedd bychan ffurfiwyd gan afonig wrth ddiwyd gario graian o'r mynyddoedd i'r llyn. Y mae'n sicr gennyf nad oes yng Nghymru fynwent mewn lle prydferthach. Y mae y llyn yn dod at ei mur, ond ni chlywais ei fod yn ei gynddaredd mwyaf wedi meiddio cyffwrdd â'r pridd cysegredig. Heibio i un cwrr rhed "Aber Gwenwynfeirch Gwyddno" gyda'i thraddodiadau paganaidd am Geridwen; a thraw dros y dwfr gwylia'r Aran lannerch y marw a'r fro sydd o'i chwmpas. Ond trown at y beddau. Dacw fedd Tegidon, draw dacw fedd Dafydd Cadwalad, dyma feddau'r Prysiaid a'u harwyddair mai hwy y pery clod na hoedl, a dyma faen cof am Siarl Wyn o Benllyn, — y bardd ieuanc roddwyd i huno ar lan y Mississippi. Wrth dalcen yr eglwys, y talcen nesaf i'r Bala, dan gysgod yr eglwys a'r yw, y mae gorffwysfan Llwydiaid Plas yn Dre.