Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

syniadau Mr. Jones am frenin ac offeiriad; gwn i sicrwydd beth yw ei syniadau am briodi, clywais ef yn dweyd droion mai un o roddion gwerthfawrocaf rhagluniaeth iddo ef ydyw ei wraig. Ac yn wir, gellir galw Bod Iwan yn "hafod y wraig lawen." Nid mewn dull amwys y dywed Mr. Jones ei feddwl am ei gas ddynion ac am ei gas bethau, — a mwyn ydyw clywed Mrs. Jones yn hanner gwrthwynebu, er ei bod hithau'n amlwg o'r un feddwl. Wedi cinio casglwyd y teulu ynghyd. Darllennodd y penteulu bennod, yna adroddodd pawb adnod, a holwyd pob un am ystyr ei adnod, ac yna gweddiwyd. Gwelais hyn yn cael ei wneyd droion yn y bore ac yn y nos, — yn aml mewn rhyw bum munud nas gellid gwneyd un defnydd arall o honynt, — ond ni welais y rhan oreu o'r diwrnod yn cael ei roddi i'r ddyledswydd deuluaidd o'r blaen.

Arweiniodd Mr. Jones ni i'w fyfyrgell. Nid yn y ty y mae, cerddasom iddi ar draws llecyn a'm hadgofiai am hoff bethau Sion Tudur,—

"Myfyr encilgoed,
Canmoliaeth cydwybod."

Wedi cyrraedd y fyfyrgell dechreuwyd troi a throsi llyfrau Cymraeg, a chawd ymgom am lenyddiaeth ein dydd. Soniwyd am y sothach di chwaeth a di ddiwylliad werthir yn siopau llyfrau ein gwlad, — esgymun bethau llenyddiaeth Lloegr, na ddarllennir y tu hwnt i glawdd Offa ond gan wehilion Philistaidd wrth gofio am eu cwrw. A gresynwyd wrth weled Cymry mor ddidaro ynghylch meddwl a llenyddiaeth eu gwlad eu hun. Gwelsom yn eglur fod Michael D. Jones yn credu'n gryf yn Rhagluniaeth ac