Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yng ngwerin Cymru. Os daw ei obeithion oll i ben, bydd dydd disglaer yng Nghymru yn amser da Duw. Pan yn gadael Bod Iwan yr oeddym wedi penderfynu gwneyd a fedrem i wasanaethu ein gwlad a'i gwerin. Wrth fynd i lawr, daeth Mr. Jones gyda ni ran o'r ffordd, a throisom yn ol i edrych arno'n araf ddringo'r rhiw tuag adref.

Y mae'r meddyg yn ein disgwyl, a'r te. "Uwd a Rhodd Mam fydda i'n preiscribio iddo fo, welwch chwi," ebe'r meddyg am danaf fi. "Y mae wedi bod yn yr ysgol er's blynyddoedd, ond nid ydi o ddim wedi dysgu Rhodd Mam eto; y mae hwnnw'n deyd fod gan ddyn gorff, heblaw enaid. Ac nid ar de y medr y corff fyw." Daeth llu o ddifir hanesion, ac aeth yr amser yn chwim. Nid oedd wiw meddwl am fynd i rwyfo awr neu ddwy ar y llyn; y mae prysurdeb y dyddiau hyn yn gwneyd gorffwysdra'n beth sy'n perthyn i'r amser fu. Y mae a fynno amser anhyblyg y tren lawer â'r prysurdeb di-ddaioni hwn; yr oedd mab y frenhines yn ei golli'r diwrnod o'r blaen, ac yn gorfod ymdaro gore gallai mewn tren pysgod. Collais innau'r tren unwaith ar adeg bwysig, er nad wyf fab i frenhines, a gorfod i mi gyd-deithio â sach flawd, yr hon a'm gwnaeth mor wyn a phe buasai gwenwisg am danaf.

Gwaith anodd ydyw gadael y Bala bob amser; yr oedd yn anhawddach nag erioed ar ddiwedd y prydnawn hafaidd hwnnw. Gwyddwn am lawer aber ddedwydd, a chysgod dan goed cyll ir ar ei glan; gwyddwn lle'r oedd y corn carw'n tyfu ar lethrau'r bryniau uwchben y llyn a lle'r oedd mafon cochion ddigon yng nghysgod y gwrychoedd; adwaenwn lawer hen gymeriad