Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Na, sir Benfro yw gardd Cymru. Cewch weld pan ddeuwch gyda mi yno."

Ni fuasai gennyf erioed fawr o amheuaeth am ben draw ffordd yr Undodwr, ond nid oeddwn wedi talu fawr o sylw i natur y lle. Ni ddywedasai fy nhad fawr am dano; ond llawer gwaith y arluniodd y lle yr oeddym ni Fethodistiaid yn cyrchu ato, — gwlad y delyn a'r palmydd, gwlad tragwyddol Doriad Dydd.

Ond yr oedd arnaf awydd yn awr am wybod am y lle arall hwnnw. Drannoeth eis i'r llyfrgell, i chwilio am lyfr ar y pwnc. Gwelais The Epic of Hades, gan Lewis Morris, llyfr newydd ei gyhoeddi. Clywswn lawer gwaith i Lewis Morris Mon i Feirion ganu'n fore; ond ni wyddwn o'r blaen ei fod yn awdurdod ar dduwinyddiaeth hefyd. Eis a'r llyfr i'm hystafell, ac ymgollais ynddo yn llwyr. Gallwn ddweyd am dano fel y dywedodd y chwarelwr am Shakespeare, — "Wyddwn i erioed fod dim cystal wedi ei ysgrifennu yn Saesneg." Ond nid oedd yn hollol,ar y pwnc.

Tra'r oeddwn yn darllen yr Epic, ac yn graddol anghofio tynged fy nghyfaill newydd a'i grwth, dyma gnoc ar y drws. Daeth Prifathraw'r coleg i mewn. "Yr wyf wedi dod a Mr. Lewis Morris i weled eich ystafell," meddai. Yr oedd arnaf awydd angerddol am ofyn i awdwr y llyfr, — gwyddwn y rhaid ei fod wedi astudio daearyddiaeth y fro honno'n drylwyr, — beth oedd ei feddwl am y nos yr oedd yr Undodwr yn rhuthro iddi, er cystal y medrai chwareu "Toriad y Dydd." Ond tybiwn na buasai bardd mor fawr yn hoffi son am ei waith ei hun; a danghosais iddo y darluniau oedd gennyf