Tudalen:Coelion Cymru.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tro hwn amlygodd y llanc ei serch, a chynnig y toes amrwd. Gwrthod a wnaeth hithau a dywedyd:

"Llaith dy fara,
Ti ni fynna'."

Eithr yr oedd gwên ar ei hwyneb pan suddodd i'r llyn, a llonnwyd y llanc. Trannoeth awgrymodd y fam i'r mab gynnig bara wedi ei hanner grasu. Aeth yntau y trydydd tro, a gweled amryw wartheg graenus yn cerdded ar wyneb y llyn, a'r wyryf Hardd yn eu bugeilio. Dynesodd at y llyn a chynnig y bara hanner cras, a derbyniwyd ef. Ymwrolodd yntau a meiddio'i cheisio yn briod iddo. Ar ôl peth crefu cydsyniodd hithau, ar yr amod nad oedd i'w tharo'n ddiachos deirgwaith. Eglurodd iddo os rhoddai iddi ' dri ergyd diachos' yr ymadawai ag ef am byth. Yna suddodd i'r llyn, a dychwelyd gyda chwaer a gŵr oedrannus ac urddasol. Dywedodd yr hen ŵr, y tad, y bodlonai ef i'r briodas os gallai'r llanc nodi pa un o'r ddwy chwaer a garai. Mor debyg oeddynt i'w gilydd fel na welai'r dyn ieuanc wahaniaeth, a theimlai fod dewis yn amhosibl. Eithr yn sydyn, ac megis ar ddamwain, gwthiodd un ei throed ymlaen y mymryn lleiaf, a sylwodd yntau ar eu dull gwahanol o rwymo'u sandalau—sylwasai droeon ar ddull yr un a garai-a dewisodd. "Ti a ddewisaist yn gywir," meddai'r tad, "bydd ffyddlon iddi, a mi a roddaf yn waddol gynifer o ddefaid a geifr a gwartheg a cheffylau ag a all hi gyfrif o bob un ar un anadl, Ond os rhoi iddi dri